English

Newyddion

Newyddion

Os hoffech i ni cynnwys newyddion sydd o diddordeb i ardal Llanbrynmair, cysylltwch a ni gyda awgrymiadau.

Datblygiadau yng nghae mawr y gymuned

Llynedd, fe agorwyd y cae cymunedol i’r cyhoedd ac yn awr, mae angen i ni gwahodd adborth a syniadau ar gyfer ei ddatblygiad i’r dyfodol.

Rydym am creu cyfle diogel i chwarae ac ymarfer corff yn yr awyr agored ar gyfer pob oedran ac am gael eich cymorth a’ch syniadau.

Mae costau torri gwair yn costion £2000 y flwyddyn ac yn cael ei dalu gan Cronfa Melinau Gwynt Llanbrynmair. O dro i dro mae yna grantiau arall ar gael ond mae angen dangos tystiolaeth o ymgynhoriad a menter cyhoeddus er mayn gwneud cais amdanynt.

A wnewch chi ateb yr holiadur ar y linc yma os gwelwch yn dda a rhowch y ffurflen yn ôl i Jo yn y siop, neu  i Sarah Reast, y Clerc gyda’r cyfeiriad ar y tudalen Cysylltu â Ni? Cofiwch bod rhaid i’r cae cael ei glirio pob blwyddyn ar gyfer y sioe felly nid oes modd rhoi strwythurau parhaol yna heblaw am ar yr ymylon.

Cylchlythyr diweddaraf gan Ganolfan Iechyd Bro Ddyfi - cliciwch yma os gwelwch yn dda

Beinciau a biniau

Mae'r Gronfa Melinau Gwynt wedi bod yn prynu beinciau newydd i'w osod o gwmpas y lle pan fydd trigolion wedi gofyn am sedd i orffwys. Dyma'r un diweddaraf yn Nolfach. Bydd yr un arian rwan yn cael ei defnyddio i prynu binau grit a halen newydd yn ôl yr angen. Dyma'r un cyntaf yng Nghlanclegyr. Rydym yn arbrofi efo'r math yma o byncer glo i weld os ydynt yn haws i cloddio allan na'r biniau arferol.

Dolfach bench.jpgGrit bunker.jpg

Cau’r A470 o 20fed o mis Ionawr am 12 wythnos i trwsio’r ffordd

Dyma darlun o’r prosiect (traws doriad o’r ffordd) i ddangos maint a her y gwaith sydd angen ei wneud. Cliciwch yma am nodiadau o cyfarfod rhwng cynrichiolwyr lleol a’r Asiantaeth Cefnffyrdd ar Ddydd Mercher y 9fed o Mis Hydref sydd yn fwy cynhwysfawr ac yn cynnwys atebion i’r holl gwestiynnau ac ofynwyd. Cliciwch yma am nodiadau ychwanegol o cyfarfod a cynhalwyd ar y 6ed o mis Ionawr gyda trigolion Bont a Llan.

Talerddig cross-section.jpg

Mae Awdit Cymru wedi cwbwlhau'r awdit o cyfrifion y Cyngor ar gyfer y blwyddyn ariannol 2023-24 ac maen't ar gael i'w weld.

Public Audit notice finalised accounts-1.jpg

Ebrill 10fed 2024

Mae cyfrifon 2022-23 wedi cael cael eu archwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru ac mae'r adroddiad yn barod i'w cyflwyno wrth clicio ar y cyswllt yma

 

Sioe Llanbrynmair

Ar ôl rhai blynyddau hebddi, cawsom sioe arbenning iawn o'r diwedd elenni. Gyda amrywiaeth gwych o arddangosfeydd, gweithgareddau a chymeriadau, roedd hyd yn oed y tywydd yn gwenni arnom.

Sioe 2022 1.jpgSioe 2022 2.jpgSioe 2022 3.jpgSioe 2022 4.jpgSioe 2022 5.jpgSioe 2022 6.jpgSioe 2022 7.jpgSioe 2022 8.jpg

Taith tractor

Taith Tractor Llanbrynmair ar y 22ain o Mis Awst 2021 er côf Eleri Evans, arian a chasglwyd yn mynd i’r Tîm Oedolion Diabetes Bronglais. 25 milltir mewn haul bendigedig trwy Darowen a Commins Coch.

Tractors.jpg

More tractors.jpg

Sioe Llanbrynmair

Sioe Llanbrynmair Mis Medi 2018 - uchafpwynt y flwyddyn gyda'r amrywiaeth arferol yn cynnwys llysiau, cwn, gwisgoedd, rhedeg, beicio a cneifio.

IMG_3115.JPG             IMG_3118.JPG

IMG_3117.JPG        IMG_3111.JPG

IMG_3109.JPG              IMG_3112.JPG

5ed Mis Mehefin 2018

Mae'r rhieni a'r plant wedi bod yn brysur iawn yn y cae chware yn adeiladu, llenwi a plannu gerddi. Diolch mawr i Ben Davies am y pridd, i'r Police Benevolent Fund am y sied ac i Nicky Arscott am drefnu popeth. Mae ganddynt cynlluniau mawr ar gyfer gardd cymunedol felly gwyliwch allan am ddatblygiadau.

Playpark1.jpgplaypark2.jpgplaypark3.jpg

Map Llanbrynmair 1841

Mae Cyng. Emyr Lewis wedi rhoi benthyg y map arbennig yma o 1841 i Cyngor Llanbrynmair er mwyn ei rhoi ar wal o fewn neuadd y Ganolfan Cymunedol i bawb cael ei weld. Ar hyn o bryd mae'r map yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cael ei adnewyddu a'i osod ar ford a'i orchuddio er mwyn ei arddangos yn saff. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth y Fferm Wynt.

map title.jpgwhole map.jpg

10fed Mis Ebrill 2018

Hoffem diolch yn fawr i Cyngor Sir Powys, ffermwyr a thrigolion lleol am yr ymdrech fawr i cadw ein ffyrdd yn glir yn ystod eira trwm. Roedd yna gryn dipyn o gymorth ar gael i rheini llai abal a llawer yn mynd allan o'u ffordd i weithio o dan amgylchiadau anodd.

snow.jpg

13eg Mis Chwefror

Ar ol naw mlynedd o trafodaethau mae gennom ni lloches bws newydd yn Nhalerddig.

Lloches bws small.jpg