Croeso
Llanbrynmair ydy'r plwyf mwyaf yng Nghymru a Lloegr ac os gwnewch chi archwilio, un o'r rhai mwyaf prydferth. Mae yna wyth pentref bach o amgylch yr ardal yn ogystal a Llanbrynmair ei hunain, pob un efo hanes a nodweddion penodol; Bont Dolgadfan, Pennant, Dylife, Llan, Talerddig, Dolfach, Pandy a Tafolwern.C
Mae gan Llanbrynmair ysgol gynradd, siop y pentref, tafarn a caffi.
Mae Canolfan Gymunedol Llanbrynmair hefyd yn rhannu safle gydag ysgol gynradd y pentref. Mae gan y Ganolfan neuadd fawr, ysgol lai ar gyfer cyfarfodydd a chegin.
Mae yna le ar gyfer tua 150 o bobl yn eistedd mewn rhesi, a rhwng 100 – 120 o bobl o gwmpas byrddau ac mae yna llwyfan y gellir ei symud.
Mae'r ystafell gyfarfod yn addas ar gyfer cyfarfod o hyd at ugain o bobl.
Mae nifer o sefydliadau yn defnyddio'r Ganolfan yn rheolaidd ac mae ganddyn nhw weithgareddau yno yn wythnosol bron:
Merched y Wawr
Clwb y Ddol
Guides, Brownies and Rainbows
Cylch Meithrin
Clwb bowlio dan do
Mae'r neuadd hefyd yn cynnal dwy Eisteddfod bob blwyddyn – Eisteddfod leol ddiwedd mis Ionawr a digwyddiad mwy ym mis Gorffennaf sy'n denu cystadleuwyr o rannau eraill o Gymru.
Hefyd, mae cyngerddau achlysurol a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y neuadd.
I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â'r hyn sy'n digwydd yn y Ganolfan neu i holi ynglyn â llogi ystafell cysylltwch ag Eleri Edwards ar 07984 647842
Mae yna Fan Post ym maes parcio'r pentre pob Dydd Mawrth a Dydd Gwener o 11.30yb tan 12.30yp. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn ymddangos yn y llun isod.