English

Cyngor Gymuned Llanbrynmair Community Council

Cyngor Bro Llanbrynmair Community Council

Croeso

Llanbrynmair ydy'r plwyf mwyaf yng Nghymru a Lloegr ac os gwnewch chi archwilio, un o'r rhai mwyaf prydferth. Mae yna wyth pentref bach o amgylch yr ardal yn ogystal a Llanbrynmair ei hunain, pob un efo hanes a nodweddion penodol; Bont Dolgadfan, Pennant, Dylife, Llan, Talerddig, Dolfach, Pandy a Tafolwern.C

Mae gan Llanbrynmair ysgol gynradd, siop y pentref, tafarn a caffi.

Mae Canolfan Gymunedol Llanbrynmair hefyd yn rhannu safle gydag ysgol gynradd y pentref. Mae gan y Ganolfan neuadd fawr, ysgol lai ar gyfer cyfarfodydd a chegin.

Hefyd mae llwyfan y gellir ei symud yn y neuadd, sydd â lle ar gyfer tua 150 o bobl yn eistedd mewn rhesi, a rhwng 100 – 120 o bobl o gwmpas byrddau.

Mae'r ystafell gyfarfod yn addas ar gyfer cyfarfod o hyd at ugain o bobl.

Mae nifer o sefydliadau yn defnyddio'r Ganolfan yn rheolaidd ac mae ganddyn nhw weithgareddau yno yn wythnosol bron:

Merched y Wawr

Clwb y Ddol

Women's Institute

Guides, Brownies and Rainbows

Cylch Meithrin

Ti a Fi

Grwp dawnsio 'ballroom'

Dosbarth Zumba

Clwb bowlio dan do

Mae'r neuadd hefyd yn cynnal dwy Eisteddfod bob blwyddyn – Eisteddfod leol ddiwedd mis Ionawr a digwyddiad mwy ym mis Gorffennaf sy'n denu cystadleuwyr o rannau eraill o Gymru.

Hefyd, mae cyngerddau achlysurol a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y neuadd.

I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â'r hyn sy'n digwydd yn y Ganolfan neu i holi ynglyn â  llogi ystafell cysylltwch ag  Eleri Edwards ar 07984 647842

Mae yna Fan Post ym maes parcio'r pentre pob Dydd Mawrth a Dydd Gwener o 11.30yb tan 12.30yp. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn ymddangos yn y llun isod.

post van services.jpgpost van.jpg

Offer Defibriliwr

Lleoliad offer defibriliwr yn Llanbrynmair a'r ardal lleol i'w weld wrth clicio yma Defibriliwr

COFNODION

Gwelir Cyfan >

AGENDA DIWEDDARAF

Gwelir Cyfan >